Mae angen Strategaeth Awtistiaeth barhaus o fewn Cymru. Un sydd yn medru 'rhoi o'r neilltu arian' ( ring fence) arian o gyllideb y Cynulliad ar gyfer ei gweithredu yn Genedlaethol.

 Yn sicr mae sicrhau asesiad cywir buan yn mynd i helpu berson ar y sbectrwm Awtistic.

Ar lefel bersonnol diffig mewn seicolegwyr addysg oedd yn medru siarad Cymraeg oedd un o'r rhwystrau a wynebwyd. Oedd y seicolegwraig yn medru peth ar yr iaith ond yn fy marn i ddim digon trylwyr i bigo i fyny pethau bach oedd yn canu cloch fod fy mhlentyn ar y sbectrw e.e. ddim yn medru gweld gwahaniaeth acen oedd rhwng fy nheulu a fy mhlentyn. 

O brofiad, ychydig iawn yw'r gefnogaeth wedi diagnosis heblaw am o fewn byd addysg dyddiol. Mae pob cefnogaeth teuluol cymdeithasol yn dod o fudiadau elusennol a sefydlwyd gan rieni plant awtistic. Oes lle i'r gwasanaeth lles fod yn cynnig cefnogaeth yn y cartref? Oes modd cysoni y gefnogaeth trwy'r wlad.

Dylai fwy o ddefnydd o waith ymchwil gwych sydd yn cael ei wneud yn ein colegau. Dylai newidiadau i'r systemau presennol ddigwydd oherwydd eu darganfyddiadau. Mae adnoddau yma, o fewn ein colegau, sydd ddim yn cael eu defnyddio i'r eithaf.